Prosiectau
![](images/slide17.jpg)
Tymor yr Haf 2018
Jon Eggins Trust
|
Tymor y Gwanwyn 2018
Gardd Fotaneg Treborth
Mae hwn yn brosiect sydd wedi’w ariannu er mwyn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu ac archwilio natur ar wahanol adegau o’r flwyddyn – gaeaf, gwanwyn a haf. Byddant yn mynd i archwilio’r gerddi; yn tynnu lluniau, dipio pyllau, gwylio adar a helfa trychfilod. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Gardd Fotaneg Treborth - Ymweliad 2
Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Tymor yr Haf 2017
Ysgol Arweiniol Creadigol 2017-2018
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Yn dilyn ein prosiect Ysgol Arweiniol Creadigol 2017-2018, mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda Tom Cockbill o 'Wild Elements' I greu gardd 'Hafan y Bont'. Mae'r ardd yn awr yn ddosbarth y tu allan (outdoor classroom) ble mae mae modd ei ddefnyddio i wahanol agweddau o ddysgu. Mae'r disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu synhwyrau drwy archwilio natur, mwynd ar antur drwy'r coed, hela trychfilod, gwrando ar stori, gwersi celf a cherdd, yn ogystal a datblyg sgiliau rhifedd a lythrennedd. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Tymor y Gwanwyn 2017
Gweithy Kyffin Williams
![]() |
![]() |
![]() |
Bu disgyblion Ceint 3 yn cymryd rhan mewn gweithdy celf yn Oriel Ynys Mon. Roedd y gweithdy yn cyd fynd ag arddangosfa newydd Kyffin Williams 'Darlun o Fon' Prif bwrpas y gweithdy oedd I ymchwilio'r defnydd o lyfrau braslunio a dysgu pan ei fod yn ased mor ddefnyddiol a gwerthfawr i'r artist. cafodd y disgyblion gyfle I greu llyfrau braslunio unigryw eu hunain, yna dylunio ynddynt a Dysgu am waith yr arlunydd mewn ffordd hwyliog ac ymlaciol. roedd y disgyblion wedi mwynhau yn fawr ac wedi cael cyfle I ddatblygu a lledu eu meddyliau ifanc. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Tymor yr Haf 2016
Prosiect Cyd-weithio Ysgol i Ysgol Celf
Cytunodd yr athrawon celf y byddai o fudd mawr i’r ddwy ysgol, i’r disgyblion ac i’r staff i greu linc/perthynas rhwng y ddwy ysgol. Byddai hyn yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion MAT bl.9 i gyd-weithio gyda disgyblion dosbarth Canol CAYB, a drwy wneud hyn, ddatblygu hunanhyder, datblygu sgiliau celf, sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Sail y prosiect oedd astudio gwaith yr arlunydd Marcia Baldwin, sy’n creu darluniau mawr lliwgar wedi ei sbarduno gan lonnod byw. Cafwyd sesiwn cymdeithasol yn CAYB gyda disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni yn dod i ymweld â’r ysgol am y tro cyntaf. Yn syth, roedd y disgyblion yn cyd-dynnu, yn sgwrsio a rhannu jôcs, yn cael hwyl a chyfnewid straeon. Aethant ati i gychwyn gweithio yn steil yr arlunydd. Trefnwyd trip i Pili Palas, ble gafodd y disgyblion gyfle i luniadu o’r byw a thynnu lluniau camera er mwyn eu defnyddio yn ddiweddarach yn y prosiect.
Aethant ati i ddargopïo ffotograffau, i greu siapiau bychan manwl, a darnau mawr haniaethol er mwyn creu cynlluniau terfynol i’w roi ar gyfres o sgrin sidan. Drwy ddefnyddio ‘gutta’ mae’r disgyblion wedi trosglwyddo’r cynlluniau ar y sgrin, ac ar ôl i hwnnw sychu, yn defnyddio paent arbennig i arllwys lliw i’r campwaith. Bydd y darnau sidan yn cael eu gwnïo at ei gilydd er mwyn creu paneli mwy i’w harddangos yn y ddwy ysgol. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |