Rhieni
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Grwp Cefnogi Rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig
Ffôn: 01248 752964
Ebost: LHVED@anglesey.gov.uk
Ymholiadau cyffredinol ynglyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol:- Adran Addysg Ynys Môn
Ffôn: 01248 752922
Ebost: aaaed@ynysmon.gov.uk
Y Broses Asesu Statudol a Datganiadau:- Cyd-Bwyllgor AAA, Plas Llanwnda, Caernarfon
Ffôn: 01286 679177
Ebost: AnnGrenet@gwynedd.gov.uk
Gwasanaeth Seicoleg Addysg
Ffôn: 01248 752952
Cydlynydd AAA Blynyddoedd Cynnar
Ebost: JWXED@ynysmon.gov.uk
Mae pob plentyn a pherson ifanc yn unigryw, ac mae ar bob un angen cefnogaeth i ddatblygu’n unigolyn effeithiol. Mae rhai plant yn dysgu’n haws nag eraill. Rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth briodol fel eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.
Os yw plentyn yn cael anhawster i ddysgu, efallai bod ganddo/ganddi anghenion addysgol arbennig (AAA). Os credwch fod gan eich plentyn chi anawsterau, mae’n bwysig eich bod yn rhannu’ch pryderon gyda’r gweithwyr proffesiynol priodol.
Os nad yw eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol, gallwch siarad â’r ymwelydd iechyd, meddyg, Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar (yn y cylch chwarae neu’r feithrinfa). Os yw eich plentyn mewn ysgol brif-lif, gallwch siarad â’r athro/athrawes dosbarth, pennaeth yr ysgol, neu gofynwch am y Cyd gysylltydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO).
Os ydych yn ei chael yn anodd siarad gyda’r ysgol neu bobl eraill sy’n gweithio efo’ch plentyn am unrhyw reswm, yna gallwch gysylltu gyda SNAP am gefnogaeth a chyngor diduedd drwy ffonio 01248 674 999.
Gwybodaeth ychwanegol:
• NASEN - National Association for Special Educational Needs
• SNAP Cymru - cymorth a chyngor / support and advice