archif Newyddion

Gwyl CefniGwyl Cefni Da iawn pawb am berfformio yn Gwyl Cefni eto eleni - job penigamp gan bob un |
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd MeddwlCafwyd nifer o weithgareddau er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. |
Canine Assisted LearningDiolch i Parker o CAL am ddod i’n gweld ni! Roedd o’n edrych yn smart iawn yn ei gôt gwaith! |
Bowlio Deg!Mi gafodd Canol 2 ddiwrnod gwych ddoe yn bowlio deg yn Dragon Bowl RAF Y Fali - Diolch Mr Clarke am alluogi ni fynd. |
Dathlu’r Flwyddyn Newydd Tseiniaidd.
Diolch i Brifysgol Bangor am ddod i'r ysgol i gynnal gweithgareddau i ddathlu’r flwyddyn newydd Tseiniaidd.
Hwyl yn y Parc!
Mae Cynradd 2 wedi mwynhau cael ymweld a’r parc tymor yma.
Gymnasteg
Mae Cynradd 1 wrth eu bodd cael mynd i redeg a neidio i Glwb Gymnasteg Ynys Mon yng Nghaergybi.
Cystadlaeuaeth Gymnasteg
Cynhaliwyd cystadleuaeth gymnasteg a redir gan Gymnasteg Cymru mewn partneriaeth â'r Rotari a Chwaraeon Anabledd Cymru ym Mhlas Arthur. Cafwyd llwyddiant ac aeth criw o ddisgyblion i Bala i gystadlu ymhellach. Roedd pawb wedi mwynhau a phawb wedi derbyn ruban neu fedal, da iawn i pawb!
Clever Cubs Club
Roedd neuadd yr ysgol yn llawn bwrlwm yn ddiweddar, daeth ymwelydd draw i'r ysgol gyda llond trol o offer sensori ac i gynnal gweithdai streon sensori – roedd pawb wedi mwynhau yn fawr.
Maint Cymru.
Diolch i Alison Mure o Maint Cymru am ymweld â ni. Roedd Canol 2 a Ceint 2 wedi mwynhau dysgu am wrangutangs a’r fforestydd glaw, gyda Cynradd 3b, Cynradd 5, Canol 1 a Ceint 4 yn dysgu am yr eliffantod sy’n byw yn y fforestydd glaw.
Gwersi offerynnol.
Mae nifer o ddisgyblion yn yr ysgol wedi cael blas ar chwarae offerynnau cerdd – gitar, piano a dryms!
Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi –Amlwch
Disgyblion a staff Cynradd 5 wedi mwynhau cael cerdded yn yr orymdaith yn Amlwch a chael hwyl yn canu a dawnsio hefo Mr T a Catrin.
Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi –Llangefni
Criw o’r ysgol wedi mwynhau perfformio Samba fel rhan o’r orymdaith yn Llangefni a chael hwyl a sbrio yn dawnsio a chanu efo Tesni Huws.
Bocsys Adar
Diolch I Dylan a Will o AONB am ymweld â Ceint 4 i ddangos sut mae creu bocs adar.
Dydd Gwener Gwych!
Eto tymor yma rydym wedi parhau i gael llond lle o hwyl ar Ddydd Gwener megis diwrnod trwyn coch, dathlu diwrnod y llyfr a gwylio ffilm a chael popcorn blasus!
Wyau Pasg
Diolch o galon am y rhodd o wyau pasg I’r disgyblion gan Andy Hughes, Eddie Howarth, Keith Williams a Phil Murphy o Clwb Motorbeics Ynys Mon.
Plant Mewn Angen
Cawsom ddiwrnod gwych a chodwyd £103.40 trwy wisgo dillad eu hunain neu wisg ffansi. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth
Gwyl Cymru Festival
Bu nifer o ddisgyblion Uwchradd drawm ym Mhlas Arthur am fore o weithgareddau Pêl-droed Cwpan y Byd a gynhelir gan Môn Actif fel rhan o Gwyl Cymru Festival. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr.
Pabi Coch – Ceint 3
Mae disgyblion Ceint 3 qwsi bod yn brysur yn creu bathodynnau pabi er mwyn nodi Sul y Cofio. Mae’r disgyblion wedi bod yn gwerthu’r bathodynnau yn Cain , sef siop lleol ac wedi rhoi cyfraniad tuag at y Lleng Brenhinol Prydeinig.
Cardiau Nadolig Canol 2
Mae criw Canol 2 wedi bod yn brysur yn creu cardiau Nadolig i’w gwerthu yn nerbynfa yr ysgol. Diolch hefyd i siop Cain a Ser Bach, Llangefni am werthu cardiau ar ein rhan.
Gwasaneth Nadolig Cynhwysol
Bu Cynradd 5, Cynradd 3B a Canol 1 ar drip i Gadeirlan Bangor i fynychu Gwasanaeth Nadolig cynhwysol. Da iawn pawb am ganu’n wych!
Llongyfarchiadau mawr i Brandon Thorman
Llongyfarchiadau mawr i Brandon Thorman am ddod yn 2ail gyda gwaith 3D yn Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Brandon Thorman who came 2nd with his 3D work in the Urdd Eisteddfod.
Llongyfarchiadau mawr i Cynradd 1
Llongyfarchiadau mawr i Cynradd 1 am ddod yn 1af gyda gwaith 3D yn Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Cynradd 1 who came 1st with their creative 3D work in the Urdd Eisteddfod.
Llongyfarchiadau i Dosbarth Cynradd 3a
Llongyfarchiadau i Dosbarth Cynradd 3a am ddod yn Ail yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Cynradd 3a who came 2nd with their 2D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.
Llongyfarchiadau i Dosbarth Ceint 2
Llongyfarchiadau i Dosbarth Ceint 2 am ddod yn 1af gyda gwaith creadigol 2D yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Ceint 2 who came 1st with their creative 2D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.
Llongyfarchiadau i Dosbarth Canol 2
Llongyfarchiadau i Dosbarth Canol 2 am ddod yn Ail yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Canol 2 who came 2nd with their 2D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.
Llongyfarchiadau i Levi Taylor
Llongyfarchiadau i Levi Taylor am ddod yn Ail yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Congratulations to Levi Taylor who came 2nd with his 2D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.
Llongyfarchiadau i Dosbarth Cynradd 5
Llongyfarchiadau i Dosbarth Cynradd 5 am ddod yn Ail yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych gyda gwaith 3D. Congratulations to Cynradd 5 who came 2nd with their 3D work in Eisteddfod yr Urdd Denbighshire.
Cenin Pedr /Dewi Sant.
Mae Ceint 3 wedi bod yn brysur yn creu bathodynau clai i ddathlu Dydd Gwyl Dewi fel rhan o’u gwaith Agored Cymru, mae’n bosib prynnu rhai yn yr ysgol neu siop Cain yn Llangefni

Gymnasteg
Mae dosbarth Cynradd 4 yn mwynhau ymweld a gampfa gymnasteg yng Nghaergybi yn wythnosol-mae’r plant wrth eu bod yno!
Hei Sion Corn
Mae plant a staff Canolfan Addysg y Bont wedi bod yn brysur dros y Nadolig yn cyfansoddi a recordio sengl newydd. Ysgrifennodd Mr Gethin Thomas y gan ‘Hei sion Corn’ ar gyfer y disgyblion. Hefyd, dyluniodd y disgyblion y clawr, mae’r clawr buddugol wedi ei ddylunio gan Kian Smith ac mae’n ymddangos ar itunes a Spotify. Roeddynt yn lwcus iawn i gael y cyflwynydd radio ac actores Catrin Angharad i ganu’r gan gyda’r disgyblion. Aeth y staff a’r plant ati i greu fidio ar gyfer y gan a cafod ei gwylio ar Fabebook dros 2,000 o weithiau!
Casglu sbwriel
Mae Ceint 4 wedi bod yn brysur iawn yn edrych ar ol yr amgylchedd drwy gasglu sbwriel yn wythnosol – Da iawn chi!
Celf
Mae dosbarth Ceint 3 wedi bod yn astudio gwaith yr arlunydd Cefyn Burgess, ac wedi creu arddangosfa o'u gwaith gorffenedig. Buom yn gweithio'n ddygyn iawn gyda Miss Fretwell yr athrawes gelf, Islwyn a Chloe. Mae'r arddangosfa yn edrych yn wych.

Bws Mini newydd
|
Dosbarth Canol 2Mae dosbarth Canol 2 wedi bod yn brysur iawn yn dygsu y geiriau ac arwyddion Makaton i'r gerdd Dawns y Dail gan T.Llew Jones |
Dosbarth Ceint 4Y tymor yma mae disgyblion Ceint 4 wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau profiad gwaith. Maent wedi mwynhau papur ailgylchu ac wedi gwneud briciau tanwydd i'w gwerthu yn y dyfodol. Maent hefyd wedi bod yn gweithio'n galed yn ardal Garddwriaeth. Gwaith gwych Ceint 4. |
|||
Dosbarth Ceint 3
Ers dychwelyd ym mis Medi, fel dosbarth rydym wedi dechrau ar y broses ar ddefnyddio Google Classrooms yn y dosbarth i gwblhau gwaith. Rydym wrth ein boddau!
24.09.20 - Dosbarth Carnedd 5
Mae Cynradd 5 wedi bod yn brysur iawn yr hanner tymor yma yn dilyn y thema Bwyd.
- 261020-mexico
24.09.2020
Penblwydd Hapus
|
dodrefn newydd y caffi
|
Plant Mewn AngenDiolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu.
|
|||
Pêl-fasged
|
Mabolgampau
|
||
cogionioDisgyblion Cynradd 5 yn mwynhau cogionio.
|
||
Disgyblion Uwchradd yn mwynhau’r ‘trikes’ newydd yn dilyn ymgyrch codi arian i’r ysgol. |
Eisteddfod!Cafwydd Eisteddfod hynod Lwyddianus yn Nghanofan Addysg y Bont Eleni. Cafwyd cystalaethau canu, adrodd, ac offerynol yn ystod y dydd. Roedd hi’n bnawn llawn hwyl a sbri. Mi oedd yr Ysgol yn hynod lwcus I gael dau Lywodraethwr fel beirniaid – Mr Peter Davies a Mrs Donna Calveley. Da iawn pawb! |
GymnastegCynhaliwyd cystadleuaeth gymnasteg a redir gan Gymnasteg Cymru mewn partneriaeth â'r Rotari a Chwaraeon Anabledd Cymru ym Mhlas Arthur. Cafwyd llwyddiant ac aeth llond bus o ddisgyblion i Bala i gystadlu ymhellach. Roedd pawb wedi mwynhau a phawb wedi derbyn ruban neu fedal, da iawn pawb! Diolch mawr i Pete o K&P Coaches am yrru’r bws i Bala. |
Dydd Gwyl Dewi
|
Diwrnod Trwyn CochBu’r ysgol yn brysur yn casglu arian i achos da, roedd stondin o gacennau blasus ar werth, disgyblion wedi gwisgo eu dillad eu hunain, a’r staff yn dyfalu ar gêm pwy yw’r babi. Diwrnod prysur iawn gyda phawb wedi mwynhau cyfrannu tuag at achos da. |
Dathlu Diwrnod y Llyfr
|
Pêl DroedBu criw o peldroedwyr CAYB draw yn Mharc Eirias Bae Colwyn i gymryd rhan mewn twrnament pêl droed. Sgoriwyd sawl gôl, peldroedwyr y dyfodol efallai?! |
Helfa Wyau PasgMae Cynradd 4 wedi mwynhau Helfa Wyau Pasg, yn chwilio am wyau siocled yn yr ardd sensori.
|
||
Bu i ddosbarth Cynradd 5 ymddiddori mewn Chwedlau Cymru yn ystod y Tymor. Gwnaed gwaith yn y dosbarth ar chwedl Cantre’r Gwaelod, Branwen a Gelert y ci ffyddlon. Ar ôl yr holl waith caled doedd dim amdani ond neidio i’r bws mini er mwyn cael gweld y rhannau o Gymru y cyfeirir atynt yn y chwedlau. Bum yn ymweld a Chastell Harlech a Beddgelert. |
Profiad Gwaith
|
Campau yn y Gampfa
|
Pili Palas
|
Codi Ymwybyddiaeth i Ddiwrnod Syndrom Down |
DIWRNOD AWTISTIAIETH CENEDLAETHOL
|
Diolch yn fawr iawn i Cymell, Caergybi am greu cegin mwd gwerth chweil i’r Cyfnod Sylfaen. Neis gweld hen wynebau cyn ddisgyblion, dyma lun o criw Cymell yn cyflwyno’r gegin. |
|
|
Ansawdd Ysgolion IachDarllenwch am lwyddiant ein disgyblion yn derbyn 'Dyfarniad Ansawdd Ysgolion Iach Cenedlaethol' ar dudalen 5 - cliciwch yma |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Sioe NadoligCawsom sioe Nadolig lwyddiannus iawn eto yn Nghanolfan Addysg Y Bont. Roedd perfformiad y disgyblion yn werth chweil, gyda dros 500 o bobl yn dod i wylio yn ystod y ddau berfformiad. Hefyd roedd ffair greffau liwgar yn llawr danteithion a chrefftau deniadol. Diolch i’r holl staff am eu gwaith caled ac i bawb am gefnogi. |
|
|
CricedBob bore Gwener yn ystod y Tymor roedd rhan o’r ysgol yn cael ei droi yn yr ‘Oval’, gyda disgyblion yn cael profiad a dysgu sut i chwarae criced. Diolch o galon i Sam o Criced Cymru am y sessiynnau ac am drefnu y twrnament ym Mhlas Arthur. |
|
Teams 4 U – Bocsys NadoligMae dosbarthiadau Cynradd Cynradd 3b, Cynradd 5 a Canol wedi bod yn brysur yn prynu nwyddau a pharatoi bocsys o anrhegion Nadolig i’w gyrru i blant bregus yn Romania. Casglwyd y bocsys gan Teams4U, sy’n cefnogi cymunedau ar draws y byd. |
|
Caban Hud – PontioMae Mr T wedi bod yn brysur iawn yn cydweithio gyda Rhodri Sion fu’n gyfrifol am y sioe Caban Hud ym Mhontio. Bu Rhodri Sion draw i’r ysgol i gydweithio gyda rhai dosbarthiadau. Bu Cynradd 1 a Cynradd 5 yn lwcus iawn o gael mynd I Pontio I weld perfformiad o Caban Hud. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Masnach Deg
|
Dydd Gwyl Ddewi
|
Gymnasteg
Roedd y disgyblion wedi mwynhau cystadlu yn 3 gweithgaredd - Llawr, Folt a Mainc. Roedd disgyblion yn cystadlu yn erbyn disgyblion Ysgol Pendalar, Gogarth, Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol y Graig. Roedd 13 o’r ddisgyblion yn llwyddiannus yn eu categorïau, byddant yn awr yn cystadlu yn y Bala, lle byddant yn cynrychioli eu rhanbarth yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol. |
Twrnament Bowlio Deg
Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Teithio
|
|
Diogelwch y Ffordd
|
Blwyddyn Newydd Tseiniaidd
Cafodd dosbarth Cynradd 5 a Cynradd 3 fod yn rhan o orymdaith oamgylch yr ysgol gyda draig fawr tseiniaidd a drymiau, roedd y dosbarthiadau eraill I gyd wrth ei boddau yn cael dod allan o'r dosbarthiadau i'w gweld. Roedd y ddau ddosbarth hefyd yn lwcus iawn I gael blasu bwyd tseiniaidd. diolch yn fawr iawn I Hoo Chung, Llangefni am gyfranu yr holl fwyd, roedd yn flasus dros ben. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Siop ElusenYn dilyn llwyddiant y siop elusen y flwyddyn ddiwethaf, mi fydd dosbarth Ceint 3 yn rhedeg y siop eto eleni yng Nghaergybi. Mae’r fenter yn caniatáu i’r disgyblion ennill profiad gwerthfawr ac ar yr un pryd yn casglu arian i’r ysgol. Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad megis esgidiau, llyfrau, dillad, gemau, teganau neu lestri. Bydd y siop ar agor yn ystod Mis Mawrth. |
Ysgol Arweiniol creadigol
|
Cyngor ysgol
|
Tŷ GobaithYn dilyn llwyddiant ysgubol y cyngerdd Nadolig, roedd Canolfan Addysg y Bont yn medru cyfrannu £650 i Dŷ Gobaith eleni. Fel cwmni cofrestredig mae’n ofynnol iddynt godi £6 miliwn y flwyddyn yma er mwyn gallu cefnogi’r plant a’r teuluoedd sydd mewn angen. Rydym yn falch iawn fel ysgol o fod wedi medru helpu. |
Celf a Chrefft yr Urdd
|
Beacon CenterFel rhan o waith Dug Caeredin mae rhai o ddisgyblion uwchradd wedi cael cyfle i fynd I Ganolfan Beacon yng Nghaernarfon. Yma, mae’r disgyblion yn cael y cyfle i ddringo’r waliau a cael cyngor gwerthfawr gan yr arweinwyr. Maent wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio rhaffau yn ddiogel a sut i weithio fel tîm. Dywedodd eu hathro Gethin Thomas fod hi’n bleser gweld y plant yn mwynhau ac yn datblygu hyder o wythnos i wythnos. |
Gweithdy Celf
|
Llywelyn Ifan Jones
|
Wythnos Wyddoniaeth
|
Masnach Deg
|
GymnastegLlongyfarchiadau mawr iawn i’r holl ddisgyblion oedd wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Rhanbarthol y flwyddyn yma. Cafwyd diwrnod gwych yn yr ysgol, gyda disgyblion o ysgolion cynradd eraill yn ymuno i gystadlu, a’r buddugwyr yn cael mynd ymlaen i’r rownd nesaf yn Bala. |
PontioYn dilyn agoriad adeilad newydd Pontio ym Mangor, bu rhai o aelodau yr ysgol yn lwcus iawn i gael bod yn rhan o berfformiad ‘Mae na Le’ ar y cŷd gyda NoFit State circus. Roedd yr awyrgylch yn Pontio yn ystod y perfformiad yn anhygoel ac yn llawn cyffro. Ymunodd pobl ifanc o Ysgol Glanadda, Glancegin, Hirael a'r Friars gyda Canolfan Addysg y Bont i gymryd rhan mewn sioe a oedd yn ymwneud â adloniant ac arswyd. Profiad gwych i’n disgyblion gael ymwneud gyda perfformwyr o’r fath safon. Cliciwch yma i ddarllen adolygiad. |
Wythnos Gyrfaoedd – Siop Elusen
|
Wyau Pasg
|
Dathu Dydd Gŵyl Dewi gyda Canolfan Addysg y Bont
Diolch i Siop Cain yn Llangefni,(www.cainonline.co.uk) Beaumaris Jewellery Studio (www.beaumarisjewellery.com) and 'Ena's newsagent ' yn Biwmares am werthu ar ein rhan.
|
Bywyd Gwyllt
|
Siop ElusenBydd yr ysgol yn rhedeg siop elusen yng Nghaergybi o’r 7fed o Fawrth ymlaen. Galwch draw am fargen i’r siop yn ganol y dref. |
Diolch
|
Canolfan ailgylchu Penhesgyn
Roedd yn brofiad gwych i'r disgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth am ailgylchu, a dysgu ffeithiau bach diddorol am sut mae posib defnyddio'r eitemau ar ol cael eu prosesu. e.e mae digon o aur mewn 50 ffon symudol I wneud modrwy priodas! a gellir gwneud siwmper ysgol gyda 50 o boteli plastig wedi'w hailgylchu! Derbynnodd y disgyblion Y Llyfr Celf a Chrefft Gynaliadwy hefyd, sydd yn llawn syniadau am sut I greu crefftau gan ail-ddefnyddio eitemau yn y cartref ac arbed arian yr un pryd. Diolch yn fawr iawn I staff y ganolfan am eu hamser! Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Arddangosfa yn Oriel Ynys Môn
|
Ser Bach
|
Ysgol Parc Y Bont
|
Pili PalasMae disgyblion Canol a rhai ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Llangefni yn uno gyda’u gilydd i weithio ar brosiect celf. Dros y misoedd nesaf mae’r ddwy ysgol yn rhannu syniadau, ymweld a’u gilydd a chyd-weithio i greu darn o waith celf fydd yn cael ei arddangos yn y ddwy ysgol. Buodd y grwp ar ymweliad i Pili Palas i gael cyfle i luniadu o’r byw fel cychwyn ar y proseict. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr, ac mae disgyblion Y Bont yn awyddus iawn i gael gweithio gyda’u ffrindiau newydd eto a chael ymweld a’r Ysgol Gyfun. |
DiolchHoffwn fel cymuned ddiolch i deuluoedd Williams Thomas Jones (Gaerwen) ac Anita May Jones (Llangefni) am y rhodd caredig i’r ysgol yn ddiweddar yn dilyn cysylltiadau cynhebrwng. |
Arddangosfa yn Oriel Ynys Môn
|
Ser Bach
|
Ysgol Parc Y Bont
|
Pili PalasMae disgyblion Canol a rhai ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Llangefni yn uno gyda’u gilydd i weithio ar brosiect celf. Dros y misoedd nesaf mae’r ddwy ysgol yn rhannu syniadau, ymweld a’u gilydd a chyd-weithio i greu darn o waith celf fydd yn cael ei arddangos yn y ddwy ysgol. Buodd y grwp ar ymweliad i Pili Palas i gael cyfle i luniadu o’r byw fel cychwyn ar y proseict. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr, ac mae disgyblion Y Bont yn awyddus iawn i gael gweithio gyda’u ffrindiau newydd eto a chael ymweld a’r Ysgol Gyfun. |
DiolchHoffwn fel cymuned ddiolch i deuluoedd Williams Thomas Jones (Gaerwen) ac Anita May Jones (Llangefni) am y rhodd caredig i’r ysgol yn ddiweddar yn dilyn cysylltiadau cynhebrwng. |
Sioe NadoligCawsom sioe Nadolig lwyddiannus iawn eto yn Nghanolfan Addysg Y Bont. Roedd perfformiad y disgyblion yn werth chweil, gyda dros 500 o bobl yn dod i wylio yn ystod y ddau berfformiad. Hefyd roedd ffair greffau liwgar yn llawr danteithion a chrefftau deniadol. Diolch i’r holl staff am eu gwaith caled ac i bawb am gefnogi. |
Arddangosfa yn Oriel Ynys Môn
|
Masnach Deg
|
Rhodd PianoDaeth Nadolig yn gynnar I ddysgyblion Canolfan Addysg y Bont wythnos diwethaf pan rhoddwyd piano drydanol am ddim ir ysgol. Cysylltodd Steve a Jacqui Monaghan a’r ysgol yn cynnig piano digidol KORG I’r adran gerdd. Mi fydd y biano yn cael ei gosod yn yr adran 14-19 ac mi fydd yn gyfle I ddisgyblion ac athrawon ei defnyddio. Diolch yn fawr iawn I Steve a Jaqui. |
Waitrose
|
Ymweliad Cwmni Clen
|
Bocsys Nadolig
|
Plant Mewn Angen
|
GwyddoniaethFel rhan o waith ymchwil Gwyddoniaeth Cynradd 5 cafwyd ymweliad buddiol a chroesawgar iawn yn Fferam y Llan, Llangristiolus. Buodd y disgyblion yn brysur iawn yn sgwrsio gyda'r ffarmwr i ddarganfod ble roedd llaeth yn dod o ag beth roedd yn digwydd iddo wedi gadael y fferm. Pleser mawr oedd cael gweld y gwartheg yn cael eu godro a bwydo'r lloeau bach. Diolch yn fawr am y croeso. |
CerddGwaith Cerdd CAYB gyda'r pbone yn cael sylw mewn erthygl (Erthygl Saesneg yn unig): cliciwch yma |
Tymor PrysurHanner tymor cyntaf wedi hedfan heibio. Hoffem estyn croeso i ddisgyblion newydd yr ysgol, mae pawb erbyn hyn wedi cynefino yn eu dosbarthiadau newydd. |
Cyngor Ysgol
|
Macmillan
|
BocswnBuodd criw o Ganolfan addysg y bont yn recordio gyda Hogia Bocswn yn ddiweddar. Sgwennwyd can bop gyda'u hathro Gethin Thomas a bellach maer sengl bron yn barod i’w ryddhau. Cafwyd perfformiad yn yr ysgol gyda band llawn cerddorion profiadol. Bu'r criw yn lwcus iawn i gael Wyn Pearson yn chwarae gitâr ar y trac sydd wedi perfformio gyda Dafydd Iwan, Catherine Jenkins ac Alfie Boe. Y gobaith yw bydd y sengl yn cael ei rhyddhau yn y misoedd nesaf. |
Gŵyl GoedwigBBC's main trumpeter Andy Everton came to visit. Andy was playing at a concert with the orchestra in Llandudno and decided to call in at the school to work with children and music teacher Mr Gethin Thomas. Children had the opportunity to play their trombones with Andy and compose classical music. |
DiolchgarwchCynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch yn yr ysgol gyda’r disgyblion yn cael cyfle i ddweud beth oeddynt yn ddiolchgar amdano. Roedd nifer o’r disgyblion wedi dod a thuniau bwyd i mewn i’w rhoi i Pantri Pobl Anglesey Food Bank yn Llangefni. Hoffwn ddiolch i’r Parchedig Hywel Davies am alw mewn i’n gweld. |
TrombonauCafwyd ymweliad gan brif drwmpedwr y BBC sef Andy Everton ar ddechrau’r tymor. Roedd Andy yn chwarae mewn cyngerdd gyda’r gerddorfa yn Llandudno ac mi benderfynodd alw mewn yn yr ysgol i weithio gyda’r plant a’r athro cerdd Mr Gethin Thomas. Bu y plant yn chwarae eu trombonau gyda Andy ac yn cyfansoddi cerddoriaeth glasurol. |
Benyounes QuartetCafwyd ymweliad hefyd gan y Benyounes Quartet. Pedwarawd llinynnol llwyddiannus iawn yw Benyounes o Lundain. Cafodd y plant bleser o wrando a bod yn rhan o weithdy gyda’r pedwarawd. |
Buddsoddwyr Mewn PoblMae Canolfan Addysg Y Bont yn falch iawn o fod wedi ennill safon arian Buddsoddwr Mewn Pobl yn ddiweddar, yn dilyn asesiad allanol. Mae'n braf iawn i gael arbenigedd allanol i gadarnhau fel sefydliad, fod cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, a gwerthoedd craidd yn cael eu rhannu. Rhaid i ni gofio bob amser mai ein staff yw adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym. |
Samba!Mae tymor yr haf yn un prysur iawn i’r adran gerdd. Rydym wrthi'n paratoi ein band Samba I berfformio ar sgwâr Llangefni yn ystod wythnos Gŵyl cefni. Hefyd mae ein Band pres yn perfformio un o ddarnau Grieg mewn cyngerdd yn yr ysgol ar y cyd a Menter Môn. |
Gryffalo
|
Sioe JoseffMae Ceint 3 wedi bod yn hynod o brysur dros yr wythnosau diwethaf yn gwneud brechdanau bacwn a selsig i werthu i’r staff. Gyda’r elw aeth y criw draw i Venue Cymru, Llandudno i weld y sioe Joseff, roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn. |
Diwrnod Trwyn Coch
|
Cystadleuaeth Gymnasteg
I weld mwy o'r lluniau ar Flickr, cliciwch yma. |
Siop ElusenUnwaith eto eleni roedd criw hŷn yr ysgol yn rhedeg siop elusen am wythnos yng Nghaergybi. Y siop unwaith eto wedi bod yn llwyddiant gyda’r disgyblion yn cael profiad o weithio a rhedeg siop. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r fenter hon. |