
I ddysgu
Mae’r Bont yn adnabod anghenion y disgyblion yn dda iawn ac yn gweithio’n gyson i baratoi rhaglenni addas i sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol i bob unigolyn.

I ofalu
Mae’r Bont yn hyrwyddo datblygiad cymdeithasol, moesol, ysbrydol a diwylliannol disgyblion yn effeithiol. Mae trefniadau effeithiol iawn i hyrwyddo ffordd iach o fyw a lles y disgyblion. Mae’r gofal a chymorth personol o ansawdd uchel.

Y cyfle i lwyddo
Mae’r ysgol yn un gynhwysol sy’n parchu amrywiaeth ac yn galluogi pawb yn yr ysgol i gyfranogi’n llawn ym mywyd yr ysgol. Mae’r ysgol yn ymroddedig i sicrhau cydraddoldeb addysg a chyfleoedd i’r holl ddisgyblion, staff, rhieni a gofalwyr.


